Dathlu Dydd Gŵyl Dewi ar Lwybr Arfordir Cymru
Ein gweithredoedd ni o Gymreictod ar y Lwybr Arfordir Cymru
Wedi’i ysbrydoli gan ymgyrch Gwna’r Pethau Bychain Croeso Cymru – sy’n dathlu ein nawddsant a phob peth Cymreig – rydyn ni’n rhannu ein gweithredoedd ni o Gymreictod, i’w dathlu ar Lwybr Arfordir Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth).
O fwynhau cerddoriaeth Gymraeg a chynnyrch lleol ar hyd Llwybr Arfordir Cymru i ddechrau sgwrs yn Gymraeg gyda phobl sy’n pasio – cofleidiwch arfordir godidog Cymru a phopeth sydd ganddo i’w gynnig ar Ddydd Gŵyl Dewi.
1. Cyfarchwch y rhai sy’n pasio gyda ‘Shwmae’.
Gallai cyfarch y rhai sy’n pasio gyda ‘Shwmae’ a gwên fach ar eich antur nesaf ar hyd Llwybr Arfordir Cymru wneud diwrnod rhywun. Mae astudiaethau’n dangos y gall dweud ‘helô’ wella hwyliau pobl – mae’n ffordd wych hefyd o ddechrau sgwrs yn Gymraeg os hoffech ymarfer, neu rhowch gynnig arni am y tro cyntaf hyd yn oed.
2. Ymwelwch â chastell cyfagos ar hyd eich llwybr.
Dydych chi byth yn bell o ddiwylliant wrth gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru – a pha ffordd well o ymdrochi yn hanes Cymru na chydag ymweliad ag un o 428 o gestyll Cymru?
Mae gan dref gaerog Conwy ar arfordir gogledd Cymru 22 o dyrau sy’n aros i gael eu harchwilio. Mae gan Gymru ddigon o ddewis hefyd pan ddaw’n fater o Safleoedd Treftadaeth y Byd, ac fe welwch chi ddau ohonyn nhw ym Mhen Llŷn – Castell Caernarfon a Chastell Harlech.
3. Caewch y gatiau ar eich ôl.
P’un a ydych chi’n marchogaeth ceffyl ar Benrhyn Gŵyr, yn seiclo ar hyd rhannau dynodedig o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, neu’n mynd â’r ci am dro – cofiwch gau pob giât ar eich ôl. Nid yn unig y byddwch chi’n dangos parch i’r llwybr drwy gadw at y rheol hon – byddwch chi hefyd yn cadw ein ffrindiau blewog yn ddiogel yn eu caeau a’u padogau.
4. Ewch am bicnic, sy’n cynnwys cynnyrch Cymreig lleol.
Pa ffordd well o dreulio diwrnod heulog nag ar Lwybr Arfordir Cymru gyda phicnic cartref, gan ddefnyddio’r cynhwysion Cymreig gorau?
O’r traeth tywodlyd enfawr i’w oleudy dramatig a’i dwyni tywod – Traeth Talacre ar arfordir gogledd Cymru yw’r lleoliad perffaith ar gyfer picnic. Ac os ydych chi’n cynllunio diwrnod allan yn ne-orllewin Cymru, gosodwch eich blanced bicnic ar hyd Bae Gorllewin Angle yn Sir Benfro. Efallai y gwelwch chi’r Seren Glustog brin sy’n byw yno.
5. Codwch eich sbwriel.
Does dim byd gwaeth na gweld rhai o’n hoff dirweddau wedi’u sbwylio gan sbwriel. Felly, p’un a ydych chi’n mwynhau byrbryd ysgafn ar hyd Morglawdd Bae Caerdydd neu’n cael picnic o amgylch arfordir Sir Benfro – cadwch amgylchedd Cymru yn lân drwy gario’ch sbwriel i’r bin agosaf, neu ewch ag ef adref gyda chi. Bydd hyn yn gwneud Llwybr Arfordir Cymru yn brofiad llawer mwy pleserus i bawb.
6. Gwnewch restr chwarae o gerddoriaeth Gymraeg yn drac sain i’ch taith gerdded.
Yn gysylltiedig â cherddoriaeth werin yn hanesyddol, mae cerddoriaeth fodern Gymraeg yn sin ffyniannus, eclectig o gerddoriaeth werin, roc, pop ac electronig.
O sêr sy’n dod i’r amlwg fel Mared a Gwilym i hen ffefrynnau sefydledig fel Bryn Fôn a Caryl Parry Jones – mae’n siŵr y bydd rhestr chwarae Gymraeg yn eich cael chi i gerdded, rhedeg, dawnsio a phethau tebyg ar hyd arfordir Cymru.
7. Cefnogwch fusnesau lleol.
P’un a ydych chi awydd hufen iâ neu beint yn yr haul, paned o goffi i’ch cynhesu, neu’r pysgod a’r sglodion gorau yn yr ardal – mae digon o fusnesau lleol ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a’r ardaloedd cyfagos.
Yn aml, mae gan fusnesau lleol ôl troed carbon llai na chwmnïau mwy – sy’n golygu bod eich pryniannau o fudd i’r amgylchedd a’r perchnogion busnes ar Ddydd Gŵyl Dewi