Sut i gerdded rhan Sir Benfro o’r llwybr gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus
Canllaw ymarferol yn cynnig cynghorion defnyddiol gan Vivienne Crow
Vivienne Crowe
Cerdded Llwybr Arfordir Sir Benfro gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus
Gan Vivienne Crow
Mae Vivienne Crow yn awdur a ffotograffydd awyr agored llawrydd sydd wedi ennill gwobrau. Mae hi wedi ysgrifennu dros 20 o deithlyfrau, gan gynnwys dau o’r llyfrau swyddogol ar Lwybr Arfordir Cymru.
Roced Poppit. Y Pâl Gwibio. Y Gwibiwr Celtaidd. Dyma rai o’r bysiau bach bendigedig sy’n caniatáu i gerddwyr gwblhau Llwybr Arfordir Sir Benfro o lond llaw o safleoedd, yn hytrach na symud ymlaen i lety newydd bob dydd.
Fel awdur teithlyfr Northern Eye Books ar Lwybr Arfordir Sir Benfro, efallai nad ydw i’n gwbl ddiduedd, ond yn fy marn i dyma’r rhan fwyaf trawiadol o Lwybr Arfordir Cymru. Mae’n rhedeg am 186 milltir (300km) ar hyd ymylon garw cornel dde-orllewinol y wlad – o Landudoch (St Dogmael’s yn Saesneg) ger Aberteifi, hyd at Gastell Amroth ar y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Mae’n troelli ar hyd pennau clogwyni anghysbell, i mewn ac allan o gilfachau cudd ac ar hyd traethau diddiwedd, gan ganiatáu i ni ymgolli mewn tirwedd ddramatig sy’n gyforiog o hanes naturiol a threftadaeth ddiwylliannol.
Mae llawer o bobl yn dewis cerdded y Llwybr Cenedlaethol mewn un daith, fel arfer dros tua 14 diwrnod, gan gerdded o un lle i’r nesaf a stopio mewn tref neu bentref newydd bob nos, ond nid yw hynny at ddant pawb, ac nid yw bob amser yn ymarferol. Am fod bysiau rheolaidd – yn ogystal â threnau o amgylch ardaloedd Penfro a Dinbych-y-pysgod (Trafnidiaeth Cymru yw’r unig ddarparwr rhwng y ddau le hyn) - gallwch aros sawl noson mewn un lle a llwyddo i gwblhau’r llwybr cyfan. Gwnewch y llwybr mewn un daith – dros bythefnos – neu ei droi yn brosiect hirdymor, gan gerdded rai dyddiau ar y tro a dychwelyd pan fydd eich amgylchiadau’n caniatáu.
Llandudoch – Abergwaun
Y tro diwethaf i mi gerdded y llwybr, fe rannais i’r rhan hon, sy’n 28 milltir (45km) i gyd, yn dri diwrnod, er bod rhai cerddwyr yn ei gwneud mewn dau ddiwrnod. Bws rhif 405, sef Roced Poppit (Poppit Rocket) sy’n gwasanaethu’r rhan hon o’r arfordir gogleddol, sy’n wyllt, yn fryniog ac yn anghysbell mewn mannau. Mae’r bws yn cychwyn o Aberteifi gan alw yn Llandudoch, Traeth Poppit, Trewyddel (Moylgrove), Trefdraeth (Newport), Dinas, Pwllgwaelod ac Abergwaun Isaf ar ei ffordd i ganol tref Abergwaun (Fishguard). Ymysg yr uchafbwyntiau mae ogof wedi dymchwel yn rhannol, o’r enw Pwll y Wrach, a harbwr pert Abergwaun Isaf.
Abergwaun – Tyddewi
Mae bws rhif 404, Gwibiwr Strwmbwl (Strumble Shuttle), yn rhedeg rhwng Abergwaun a Thyddewi drwy Wdig (Goodwick), Pen-caer (Strumble Head), Trefaser, Melin Wlân Tregwynt, Abercastell, Trefin, Porthgain ac Abereiddi. Yn hawdd i’w rhannu’n dri diwrnod o gerdded, mae hon yn rhan arbennig o hudolus o’r llwybr, ble mae olion cynhanesyddol, gan gynnwys caerau a safleoedd claddu, yn addurno’r clogwyni. Fe glywais i forloi llwyd yn cyfarth ar ei gilydd un tro ger y goleudy dramatig ar Ben-caer, ond mae hefyd yn bosib y gwelwch ddolffiniaid a hyd yn oed forfilod o’r fan hon.
Penrhyn Tyddewi
Er nad yw’r Llwybr Cenedlaethol yn mynd drwy Dyddewi ei hun, mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n cerdded Llwybr yr Arfordir yn galw i mewn yn ninas leiaf y Deyrnas Unedig. A gan fod y Gwibiwr Celtaidd (Celtic Coaster, 403) yn mynd bob hanner awr o amgylch penrhyn Tyddewi bob dydd drwy’r haf, fe allech chi dreulio rhai nosweithiau yma, gan gymryd seibiant o’r cerdded i fynd i weld yr atyniadau. Prif atyniadau’r ddinas yw ei heglwys gadeiriol, y mae rhannau ohoni’n dyddio nôl i’r 12fed ganrif, adfeilion Llys yr Esgob a’r oriel arbennig Oriel y Parc
Tyddewi – Marloes
Ar ôl cerdded o amgylch penrhyn Tyddewi, rydych chi’n cychwyn ar ran ysgafnach o Lwybr Arfordir Sir Benfro o amgylch Bae St Brides, ble byddwch chi’n cerdded i fyny a lawr rhwng pennau’r clogwyni a’r traethau gwyn hi’r sy’n boblogaidd gyda syrffwyr. Mae’n 36½ milltir (59km) rhwng Bae Whitesands a Thraeth Marloes, un o fy hoff draethau yng Nghymru. Mae bws rhif 400, y Pâl Gwibio (Puffin Shuttle), yn gwasanaethu’r rhan fwyaf o’r llwybr, gan alw yn Solfach, Niwgwl (Newgale), Nolton Haven, Druidston Haven, Aberllydan (Broad Haven), Aber-bach (Little Haven), St Brides, Martin’s Haven a phentref Marloes.
Marloes – Penfro
Gellir cyrraedd llawer o’r pentrefi ar hyd y rhan hon, sy’n 30½ milltir (48km) o hyd, ar fws rhif 315 Hwlffordd-Marloes. Mae’n galw yn Dale, Llanisan-yn-rhos (St Ishmael’s), Herbrandston, Hubberston a thref Aberdaugleddau (Milford Haven) wrth i Lwybr Arfordir Sir Benfro ddechrau gwneud ei ffordd ar hyd y rhan fwy datblygedig o’r arfordir o amgylch dyfrffordd Aberdaugleddau.
Penfro – Freshwater East
Dw i’n gwirioni bob tro dw i’n mynd o amgylch penrhyn Angle ac yn cyrraedd yn ôl ar yr arfordir go iawn, gan lamu ar hyd traethau godidog a thros dopiau clogwyni yn nannedd y gwynt. O’ch blaen mae rhai o olygfeydd gorau Prydain o arfordir carreg galch, gan gynnwys y bwa naturiol a elwir yn Bont Werdd Cymru. Yma hefyd fe welwch chi Gapel Sant Gofan o’r 13eg ganrif, Pyllau Lili Bosherston a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ystagbwll. Defnyddiwch fws rhif 387/388, sef Gwibfws yr Arfordir (Coastal Cruiser) i archwilio’r rhan amrywiol hon o’r arfordir sy’n 36 milltir (58km) o hyd.
Freshwater East – Castell Amroth
Gallwch gyrraedd yr 18 milltir (29km) olaf o Lwybr Arfordir Sir Benfro gan ddefnyddio cangen Doc Penfro o Linell Gorllewin Cymru, sy’n cael ei gwasanaethu gan Trafnidiaeth Cymru, gyda’r trenau’n stopio yn Noc Penfro (Pembroke Dock), Penfro, Maenorbŷr (Manorbier), Penalun (Penally), Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot. Mae Penfro a Dinbych-y-pysgod hefyd wedi’u cysylltu gan fws rhif 349, ac mae bws 351 yn mynd allan i Gastell Amroth.
Ystyriaethau ymarferol i gerddwyr
Ar ddechrau pob diwrnod o gerdded, byddwn i’n argymell teithio allan gyda’r bws a cherdded yn ôl at eich llety, ond mae hynny dim ond am nad ydw i’n hoffi teimlo pwysau i ruthro am y bws – neu orfod aros yn hir ar ôl bod yn cerdded. Ar y llaw arall, efallai byddai’n well gan rai pobl adael y bws tan ddiwedd y dydd er mwyn gallu amrywio hyd eu taith yn dibynnu sut maen nhw’n teimlo.
Dim ond rhwng diwedd Mai a diwedd Medi mae rhai o’r bysiau sydd wedi’u rhestru uchod yn rhedeg, felly dylech edrych ar wefan Cyngor Sir Penfro os ydych chi’n meddwl cerdded y Llwybr Cenedlaethol unrhyw adeg arall o’r flwyddyn. Cliciwch ar y dolenni perthnasol ar y dudalen honno i gael yr amserlenni bws mwyaf diweddar. Sylwch hefyd nad yw rhai gwasanaethau yn rhedeg ar ddydd Sul a bod rhai gwasanaethau wedi’u cyfyngu ar hyn o bryd yn sgil prinder gyrwyr. I gael amseroedd y trenau, edrychwch ar safle Trafnidiaeth Cymru.
Mae yna safleoedd bws penodedig mewn trefi a phentrefi mawr, ond pan fyddwch chi yng nghefn gwlad, gallwch arwyddo i’r bws eich codi unrhyw le ar hyd ei lwybr. Yn fy mhrofiad i, mae’r gyrwyr cyfeillgar yn gwybod llawer iawn am yr ardal leol, a byddan nhw’n fwy na bodlon eich helpu i ddod o hyd i safle addas i gael eich gollwng a’ch codi. Mae Sir Benfro hefyd yn rhan o gynllun fflecsi gan Trafnidiaeth Cymru sy’n caniatáu i deithwyr bws archebu eu taith drwy ap neu’r ffôn, ac yna gael eu codi a’u gollwng mewn lle cyfleus.
Mae’n deg dweud bod popeth yn ei le i’w gwneud mor rhwydd a phleserus â phosib i gerdded Llwybr Arfordir Sir Benfro.