Rhyfeddodau Natur Drwy’r Tymhorau: Cerdded Llwybr Arfordir Cymru yng Ngogledd Cymru
Archwiliwch fywyd gwyllt arfordir gogledd Cymru trwy gydol y flwyddyn
Nia Hâf Jones, Rheolwr Moroedd Byw yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, sy’n trin a thrafod y bywyd gwyllt cyfoethog ac amrywiol y gall ymwelwyr â rhan ogleddol Llwybr Arfordir Cymru ei fwynhau drwy’r tymhorau.
Y Gwanwyn Mis Mawrth-Mai
Ym mis Mawrth gwelwn Gyhydnos y Gwanwyn (Mawrth 20fed/ 21ain fel arfer), pan fydd y dydd a’r nos yr un hyd, ac sy’n rhoi llanw isaf y flwyddyn i ni. Dyma pryd y cawn weld y creaduriaid bach rhyfeddol sy fel arfer dan orchudd y llanw gydol yr amser. Mae creaduriaid fel cimychiaid byrdew, brennig glasresog, heulser, morwlithod a phob math o anemonïau, mwya sydyn yn ymddangos i’r rhai sy’n ddigon chwilfrydig i’w darganfod. Ewch i unrhyw lan greigiog pan fo’r llanw ar drai (ond cadwch lygad ar y llanw). Fy hoff ddarn i o arfordir fel hyn ydy rhwng Bae Trearddur a Phorth Dafarch, ble mae’r clogfeini a’r rhychau rhwng y creigiau’n cuddio cyfoeth o greaduriaid rhyfeddol pan fo’r llanw allan.
Ac yna ym mis Ebrill, pan fydd hi’n dechrau cynhesu, mae creaduriaid yn dechrau magu, yn barod i ryddhau wyau a larfâu mewn digon o bryd i fanteisio ar y wledd a fydd ar gael pan fydd tyfiant plancton yn ffrwydro yn y gwanwyn. Organebau sy’n drifftio yw plancton ac yn aml dim ond drwy ficrosgop y gellir eu gweld. Mae rhai mathau – ffytoplancton – yn ffotosyntheseisio ac felly mae’r cynnydd yn y golau sydd ar gael wrth i’r dyddiau ymestyn a chynhesu yn arwain at ordyfiant.
O ganlyniad, fe welwn gynnydd o ran plancton larfal ac anifeilaidd – y sŵoplancton, sy’n bwyta’r ffytoplancton. Dyma sylfaen y rhan fwyaf o gadwyni bwyd yn yr amgylchedd morol ac felly mae’r cynnydd hwn yn y bwyd sydd ar gael yn y gwanwyn a dechrau’r haf yn golygu ein bod hefyd yn dechrau gweld rhywogaethau mudol fel heulgwn, mecryll a sawl rhywogaeth o adar y môr
Ar wely’r môr, bydd gwymon blynyddol wedi dechrau ymddangos tra bydd y rhai lluosflwydd yn dechrau ar eu cyfnod tyfu yn y gwanwyn. Efallai y sylwch hefyd ar belenni tryloyw fel jeli o’r enw gwsberis y môr, gyda’u tentaclau hir, wedi’u golchi ar y traeth neu mewn pyllau yn y creigiau. Os edrychwch chi’n ofalus efallai y gwelwch chi’r “cribau” tonnog gloyw.
Wedyn erbyn diwedd y gwanwyn fe ddaw cymylau arallfydol o slefrod môr – mae sawl rhywogaeth i’w gweld yn nyfroedd Cymru. Y mwyaf cyffredin yw’r slefren gylchog, sy’n hawdd ei hadnabod o’r pedwar cylch glas-borffor y gellir eu gweld oddi uchod. Mae llefydd fel Pier Bangor a Llandudno yn llefydd gwych i fynd i wylio bywyd gwyllt, a gellir gweld slefrod môr yno yn aml – edrychwch yn ofalus, faint o wahanol fathau allwch chi eu gweld?
Mae hwn yn amser gwirioneddol hudolus o’r flwyddyn pan fydd pethau’n dechrau newid o ddifrif. Pan fydd y dŵr yn dechrau cynhesu, mae’n bryd dechrau paratoi am nosweithiau hwyr – wrth i negeseuon ddechrau cael eu rhannu ymhell ac agos bod bioymoleuedd yr haf i’w weld.
Yr Haf Mis Mehefin-Medi
Mae’r haf yn amser arbennig o dda i’n hadar gwyllt, felly cadwch lygad am ein haderyn môr mwyaf a mwyaf rhyfeddol, yr hugan, gyda’i blu gwyn disglair, yr arlliw o felyn yn y gwddf a blaenau’r adenydd yn loywddu. Os gwelwch huganod yn plymio fel bwledi i’r môr, gall hynny fod yn arwydd o fod creaduriaid fel llamhidyddion yn bresennol, yn bwydo ar yr un heigiau o bysgod.
Wrth i chi gerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir, cadwch lygad am yr arwyddion – mae yna reswm pam fod môr-wenoliaid wedi ysbrydoli’r rhan o’r llwybr yn Ynys Môn. Mae môr-wenoliaid i’w gweld (a’u clywed!) o gwmpas yr ynys i gyd yn pysgota am lymrïaid. Byddai’n esgeulus i mi beidio â sôn am Warchodfa Natur Cemlyn, ger Cemaes, sy’n cynnig gwledd wirioneddol o fywyd gwyllt ar ddechrau’r haf. Mae cefnen hir unigryw o raean, sydd ynddi ei hun yn gynefin pwysig i bob math o blanhigion arbenigol yr arfordir, yn gwahanu’r môr oddi wrth forlyn arfordirol. O fewn y morlyn mae ynysoedd bychain yn gartref i nythfa fwyaf Cymru o’r fôr-wennol bigddu ynghyd â channoedd o fôr-wenoliaid cyffredin a’r Gogledd.
Does dim yn well nag eistedd ar y graean yn gwylio’r môr-wenoliaid yn hedfan i mewn gyda physgod i’w cywion. Caewch eich llygaid am ennyd – mae’r trac sain yn well fyth! Y tu hwnt i Gemlyn, mae adar drycin y graig, â’u hadenydd unionsyth, yn glanio’n ddiymdrech trwy frig a phantiau’r tonnau. Mae clogwyni unionsyth Ynys Lawd a Phen y Gogarth yn gartref i nythfeydd ysblennydd o adar y môr, yn cynnwys llursod, gwylogod a phalod. Bydd wyau’r adar hyn wedi deor erbyn hyn fel arfer, ac mae’r rhieni wrthi’n brysur yn chwilio am fwyd.
Ganol haf (ac ar adegau eraill o’r flwyddyn hefyd) gellir gweld morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion o bron unrhyw le ar hyd arfordir Cymru. Mae pentiroedd a brigiadau creigiog yn fannau arbennig o dda i’w gweld. I gael y cyfle gorau i weld rhywbeth, ewch i arfordir gogleddol Ynys Môn neu Ben Llŷn, ac mae’r darn o arfordir rhwng Porth Llechog a Chemaes ar Ynys Môn wastad wedi bod yn anodd ei guro. Fodd bynnag, mae digon o lefydd gwych eraill i’w gweld ar hyd arfordir gogledd Cymru. Yr haf hefyd yw’r amser delfrydol o’r flwyddyn i hel eich snorcel o’i guddfan. Erbyn mis Awst mae’r dŵr wedi bod yn cynhesu ers rhai misoedd ac mae digonedd o bethau i’w gweld.
Felly, am beth ydych chi’n chwilio? Mae’r ateb i hynny yn syml – unrhyw beth a phob dim! Yr adeg hon o’r flwyddyn, chwiliwch am slefrod môr a gwsberis môr, ac os edrychwch yn ofalus yn y tywod (mae gan lawer o greaduriaid guddliw arbennig) fe welwch chi ledod, llymrïaid a chrancod meddal. Mae gwymon a fforestydd môr-wiail yn brydferth ynddynt eu hunain, ond chwiliwch am greaduriaid sy’n cuddio oddi mewn iddynt. Bydd crancod heglog wedi cyrraedd yn gynharach yn yr haf i fagu; mae’r crancod mawr hirgoes hyn yn olygfa anhygoel. Chwiliwch am greaduriaid fel mwydod troellog a’r brennig glasresog yn bwydo ar ddail y gwymon.
Yr Hydref Mis Hydref-Tachwedd
Wrth i dymor yr hydref (a thymor arswyd!) agosáu, un o’r pethau rhyfeddaf (a mwyaf drewllyd!) i’w gweld ar ein harfordir yw gweddillion llaw farw wedi’u golchi i’r lan. Nid yw hwn mor frawychus ag y mae’r enw’n ei awgrymu, ond os dewch ar draws y cwrel hwn, fe ddaw’n amlwg sut cafodd yr enwAr ôl i’r tonnau ei sgubo i’r traeth, mae’r llabedau cnawdog lliw golau yn gallu edrych fel llaw person chwyddedig! Mae traethau hir tywodlyd yn llefydd gwych i fynd i chwilota. Mae’r arfordir rhwng Prestatyn a Bae Cinmel yn arbennig o ddiddorol yr adeg hon o’r flwyddyn. Pan maen nhw’n fyw, gall y llaw farw orchuddio rhannau helaeth o greigiau ar wely’r môr a chynnig golygfa ryfeddol, pob un yn bentwr cnawdog o bob siâp. Gallant fod yn oren neu’n wyn, a phan fyddan nhw’n actif gallant ymddangos yn flewog wrth i’r tentaclau estyn allan i fwydo.
Ymysg y creaduriaid rhyfedd eraill sydd i’w gweld ar hyd y traeth wrth i stormydd yr hydref ddechrau corddi gwely’r môr, mae’r creadur estron yr olwg, môr-lygoden. Nid math o lygoden ydy’r fôr-lygoden, ac nid yw’n perthyn i’r llygoden chwaith. Math o fwydyn ydy hi sy’n edrych yn debycach i lygoden nag i fwydyn! Mae’r fôr-lygoden wedi’i gorchuddio â ffwr tebyg i ffelt, ac mae blew tywyll garw yn gorwedd o fewn rhimyn gwyrddlas euraid hardd. Ewch am arfordir dwyreiniol Ynys Môn i Landdona, ac fe gewch eich synnu gan yr amrywiaeth o greaduriaid y môr y gallech eu gweld wedi’u golchi i’r lan.
Yn dilyn gwynt cryf o’r gogledd-orllewin edrychwch am wyrain coesynnog. Mae’r creaduriaid hyn i’w cael allan ar y môr mawr yn tyfu mewn cymunedau ar wrthrychau sy’n arnofio, fel broc môr. Mae gwrthrychau sy’n arnofio yn fannau angori i wyrain coesynnog, sy’n glynu wrthynt ac yn tyfu arnynt. Mae gan y creadur rhyfedd yr olwg hwn goesyn hyblyg brown llwydaidd ac mae gan ei gragen bum plât mawr llyfn sy’n wyn tryloyw ac sydd wedi’u gwahanu gan groen tywyll.
Mae traethau arfordir gorllewinol gogledd Cymru fel Traeth Llydan yn Rhosneigr, Porth Neigwl, Harlech a Chricieth yn llefydd gwych i grwydro yr adeg hon o’r flwyddyn pan fydd bywyd rhyfeddol yn dechrau cyrraedd ein glannau o bell.
Y Gaeaf Mis Rhagfyr-Chwefror
Pan fydd y gaeaf wedi cydio, anelwch am un o aberoedd bendigedig gogledd Cymru i weld rhai o’r golygfeydd mwyaf trawiadol a welwch eleni.
Mae rhai creaduriaid yn cysgu’n sownd, ac eraill wedi troi am lefydd cynhesach, ond mae eraill wedi heidio yma yn eu miloedd i ddianc rhag gaeafau garw’r gogledd ac i fwydo ar y gwastadeddau llaid. Mae’r rhain yn arbennig o faethlon diolch i’r amrywiaeth aruthrol o fywyd a geir ynddynt sy’n cynnig gwledd i adar y dŵr ac adar hirgoes.
Ym mhob metr sgwâr o’r llaid, gellir dod o hyd i fwydod yn eu cannoedd o filoedd ynghyd â miloedd o falwod a rhywfaint o bysgod cregyn – arlwy ysblennydd i adar sy’n defnyddio eu pigau hir i chwilota am fwyd yn y llaid. Oherwydd hyn, mae adar hirgoes, er enghraifft y bioden fôr, pibydd y mawn, y gylfinir, pibydd yr aber a’r pibydd coesgoch, yn ymgynnull yn eu miloedd. Mae’r miloedd o adar yn olygfa ryfeddol wrth iddynt godi yn un côr wrth i’r llanw eu gwthio ymhellach tua’r lan.
Un o’r llefydd gorau yng ngogledd Cymru i weld hyn, yn wir un o’r safleoedd mwyaf a phwysicaf yn Ewrop, yw aber afon Dyfrdwy lle credir bod dros 130,000 o adar i’w gweld. Mae llawer o rywogaethau hefyd yn defnyddio ffermdir arfordirol a morfeydd heli i fwydo ac i glwydo. Ewch tua’r dwyrain am aber hardd afonydd Glaslyn/Dwyryd ac mae niferoedd cenedlaethol arwyddocaol o adar y dŵr, e.e. yr hwyaden lostfain, i’w gweld yma yn y gaeaf. Ymhellach tua’r dwyrain ar aber afon Ogwen ger Bangor, a gerllaw ehangder tywodlyd Traeth Lafan, mae Gwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen. Man hyfryd i wylio adar yn y gaeaf ble gallwch weld heidiau mawr o adar. Os ewch i’r warchodfa ei hun efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld glas y dorlan o un o’r cuddfannau.
Ymhellach i’r de ar aber afon Mawddach edrychwch am y chwiwell a’r gorhwyaden ymhlith llawer o adar eraill. Bydd yr olygfa a gewch o’r adar ar unrhyw aber yn dibynnu ar y llanw. Pan fo’r llanw allan mae adar yn dueddol o fod ymhell allan, a chânt eu gwthio tuag at y lan pan fydd y llanw’n dod i mewn. Felly maen nhw’n agosach a gallwch eu gweld yn well pan fydd y llanw’n dod i mewn – ddwy neu dair awr cyn penllanw.
Llun: Gwyrain coesynnog (Jonny Easter)