Ail-lenwch eich potel ddŵr ar y ffordd
Defnyddiwch yr ap Refill i ganfod dŵr yfed ar...
Gwella’ch profiad ar y llwybr gyda’n ap
Mae hwn yn ap sy’n seiliedig ar fap i’w ddefnyddio ar ddyfeisiadau clyfar fel eich ffôn neu lechen. Bydd yr ap yn gwella eich profiad ar y llwybr gyda’r ddwy swyddogaeth arbennig hyn:
Beth bynnach fyddwch yn ei wneud, cerdded un filltir neu’r 870 milltir i gyd, bydd ein ap yn dangos i chi ym mhle’n union ydych chi ar y llwybr. Mae’r swyddogaeth olrhain neu dracio yn ardderchog ar gyfer:
Gwyliwch sut gallwch olrhain eich cynnydd (yn agor yn YouTube)
Mae ‘na lawer o ffeithiau hwyliog a difyr ar yr ap, nodweddion y llwybr a’r ardaloedd o’i gwmpas. Mae’r rhain yn gysylltiedig â llên gwerin a hanes lleol Cymreig a bywyd gwyllt unigryw yr arfordir – yr holl bethau y byddwch yn eu canfod wrth ymweld â’r llwybr.
Rydym wedi creu 7 Taith Deulu gyda Gwahaniaeth. Pwrpas y rhain yw annog teuluoedd i ymweld â’r llwybr gan ddefnyddio ein ap er mwyn cael profiad digidol unigryw yn y lleoliadau canlynol, ar hyd y llwybr:
1. Y Gogarth ger caffi Rest and be Thankful yn Sir Conwy,
2. Tref Porthaethwy ar Rodfa’r Belgiaid, Ynys Môn,
3. Borth y Gest, ger y maes parcio yn y pentref ym Mhenrhyn Llŷn,
4. Tref Ceinewydd ar y grîn ger y cerflun hanner ffordd swyddogol yng Ngheredigion,
5. Traeth Saundersfoot yn Sir Benfro,
6. Traeth Pentywyn ger maes parcio’r traeth yn Sir Gaerfyrddin,
7. Morglawdd Caerdydd ger mainc crocodeil enwog Roald Dahl ym Mae Caerdydd.
Unwaith y byddwch wedi lawrlwytho’r ap a’i agor ar eich dyfais pwyntiwch hi i gyfeiriad y bwrdd gwybodaeth i ddatgloi’r nodweddion arbennig yn yr ap. Mae hyn yn actifadu gêm, nodwedd realiti estynedig neu fideo 3D sy’n adrodd stori am y rhan honno o’r llwybr i chi mewn ffordd hwyliog a gwahanol. Gwyliwch ragflas o’r profiad digidol (yn agor yn YouTube)
Rydym yn argymell lawrlwytho'r ap gyda Wi-Fi cyn i chi ymweld â'r byrddau gwybodaeth er mwyn cael profiad llyfn. Gallwch lawrlwytho'r ap ym mhob lleoliad lle ceir y byrddau gwybodaeth - yn dibynnu ar argaeledd signal 4G a 5G. Dim ond gwybodaeth sy'n berthnasol i'r bwrdd gwybodaeth yn y lleoliad fydd yn cael ei lawrlwytho i'ch dyfais.
Chwiliwch am “Llwybr Arfordir Cymru” ar ddyfeisiau iOS ac Android.
Lawrlwythwch o’r Apple App Store (dyfeisiau iOS)
Lawrlwythwch o’r Google Play Store (Android)