Cyflwyno ein llysgenhadon cyfryngau cymdeithasol newydd!
Ein hoff ddylanwadwyr a chrewyr cynnwys am ysbrydoliaeth
Fe ofynnon ni i rai o’n Llysgenhadon y cyfryngau cymdeithasol beth oedd eu hoff lecynnau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Dyna beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud.
Mae Lewis yn creu cynnwys digidol ac yn ffotograffydd tirwedd o Gymru. Fel ffotograffydd tirwedd mae ei gynnwys yn dal hanfod harddwch naturiol Cymru, ac yn ei arddangos i’w ddilynwyr niferus.
“Mae hi mor anodd dewis dim ond un llwybr. Felly, dyma rywfaint o’r uchafbwyntiau i fi:
Yn Sir Benfro mae fy hoff daith yn cychwyn ym Mhyllau Lili Bosherston, ymlaen i draeth Broadhaven South, ac i’r llecyn tlws Bae Barafundle – mae’r rhan hon yn un o uchafbwyntiau’r llwybr i mi.
Ymhellach i fyny’r arfordir gorllewinol, o Gei Newydd, trysor arfordirol sy’n adnabyddus am ei ddolffiniaid a’i harbwr prydferth, ymlaen at Aberystwyth, tref fywiog gyda phier hanesyddol, traethau tywodlyd, gallt eiconig Craig-glais a’r golygfeydd panoramig.
Mae Penrhyn Gŵyr yn enwog am ei draethau euraidd fel Bae Rhosili, ac mae’n llecyn delfrydol i gerddwyr a ffotograffwyr. Dwi bob amser yn cael llonyddwch o wylio’r tonnau o ben y clogwyni.”
Mae Nerys yn ddylanwadwr yng Ngogledd Cymru. Mae hi’n siarad Cymraeg ac yn llysgennad dros Eryri . Mae ei chynnwys yn ymwneud â’i theithiau a’i hanturiaethau ledled Cymru, a hi hefyd yw’r arweinydd tudalen ar gyfer y cyfrifon Instagram hynod boblogaidd @yourwales, @yourcountryside ac @your_trees__
“Mae Arfordir Môn yn ffefryn gen i. Dydy hi ddim bob amser yn hawdd gwneud taith o un pwynt i’r llall pan ddaw’r awydd i fynd allan, dim ond chi a’r ci, felly dwi’n ei chael yn ddefnyddiol iawn cynllunio rhywfaint o lwybrau cylchol, sy’n rhywbeth hawdd iawn i’w wneud. Un o fy ffefrynnau ydy i fyny ac o amgylch Ynys Lawd – Adran 12 yn llyfr Llwybr Arfordir Ynys Môn.
Mae nifer o fannau cychwyn ar gyfer archwilio’r ardal hon, sef Parc Gwledig y Morglawdd, maes parcio RSPB Ynys Lawd, neu gerllaw yn The Range.
Mae rhywbeth i bawb yn y rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru. Gallwch gerdded y llwybr yn hamddenol, ymweld â’r goleudy, neu brofi eich sgiliau cerdded bryniau gan ddringo Mynydd Tŵr, sef y man uchaf ar Ynys Gybi, ac Ynys Môn hefyd.
Mae’r ardal hon yn ddelfrydol i wylwyr adar hefyd, gydag amrywiaeth o adar y môr yn nythu ar y clogwyni, a gallwch hefyd ymweld ag Ynys Arw, lle gallwch weld morloi o bell.”
Mae Lauren yn ddylanwadwr heicio a cherdded o Fargod. Gyda chariad gwirioneddol at antur, mae hi’n teithio o amgylch Cymru a’r DU gyda’i phartner, Alex, yn darganfod ac yn archwilio’r llwybrau gorau oll i hyrwyddo i’w 32,000+ o ddilynwyr.
“Un o fy hoff rannau o Lwybr Arfordir Cymru yw Bae’r Tri Chlogwyn ym Mhenrhyn Gŵyr, lle sydd ag atgof arbennig i mi a fy mhartner Alex, gan mai dyna lle aethon ni ar ein dêt cyntaf. Mae’r golygfeydd yn odidog, gyda chlogwyni môr, afon, a hyd yn oed castell yn ychwanegu at ei swyn.
Dwi hefyd yn argymell Ynys Llanddwyn a Rhosili yn fawr am eu golygfeydd trawiadol. Dwi’n cael fy syfrdanu bob tro dwi’n ymweld â’r ddau le hwn.”
Ffotograffydd o Gymru yw Alex sy’n creu cynnwys cerdded ac arfordirol o amgylch y DU. Mae’n teithio’n aml o amgylch Cymru a’r DU gyda’i bartner, Lauren, yn tynnu lluniau hyfryd o’u hanturiaethau gyda’i gilydd.
“Fel Cymro balch, efallai fy mod i’n rhagfarnllyd braidd, ond mae gan Gymru rai o’r tirweddau arfordirol mwyaf syfrdanol. Fy nhri ffefryn pennaf yw Dinbych-y-pysgod ac Abereiddi yn Sir Benfro a Bae’r Tri Chlogwyn yn y Gŵyr, pob un ag atgofion arbennig i mi.
Dinbych-y-pysgod oedd ble bydden ni’n mynd ar wyliau fel teulu, Abereiddi oedd ble dysgais i arfordira am y tro cyntaf, a Bae’r Tri Chlogwyn yw ble gwnes i gyfarfod â fy nghariad, Lauren. Mae’r lleoliadau hyn nid yn unig yn enghreifftiau gwych o harddwch naturiol Cymru, ond maent hefyd yn adlewyrchu ei diwylliant cyfoethog.”
Mae Tanya yn grëwr digidol sydd wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru. Mae hi’n siarad Cymraeg, ac mae hi wrth ei bodd yn teithio, ac yn disgrifio ei hun fel un sydd ‘hapusaf wrth grwydro’.
“Hen chwarel lechi oedd y Morlyn Glas yn Abereiddi, cyn iddi gael ei gadael a’i llenwi â dŵr. Yn adnabyddus am ei dŵr glas clir a Chyfres Ddeifio Fyd-eang Red Bull, sy’n cael ei chynnal yma, mae’r ardal hefyd yn lle poblogaidd gyda defnyddwyr caiacs ac SUPs a selogion arfordira.
Dwi wrth fy modd yn ymweld pan fydd yr haul yn codi neu’n machlud, amser perffaith i neidio i’r dŵr, ac am fod y morlyn mor ddwfn does dim angen poeni gormod am y llanw. Os hoffech chi gyfuno hynny â thaith gerdded ar yr arfordir, yna parciwch ym mhentref pysgota cyfagos Porthgain a bydd y daith 2.3 milltir ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd â chi’n syth i Abereiddi a’r Morlyn Glas.
Mae gan draeth Mwnt yng Ngheredigion hefyd le arbennig yn fy nghalon. Yn fae diarffordd prydferth, mae gen i gymaint o atgofion plentyndod o’r dyddiau a dreuliais i yma ar y traeth ac yn dringo’r clogwyni gerllaw i chwilio am y dolffiniaid, y llamidyddion a’r morloi lleol.”